Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) (Diwygio) 2026

 

Pwynt Craffu Technegol 1:         Mae Llywodraeth Cymru yn ddiolchgar i’r Pwyllgor am dynnu sylw at y gwall hwn. Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n cyflwyno system Lawmaker ar gyfer llunio is-ddeddfwriaeth a throsglwyddwyd yr OS hwn i system Lawmaker o’r feddalwedd flaenorol (y templed OSau). Yn anffodus, yn ystod y broses hon, hepgorwyd testun rheoliad 10 o’r fersiwn Saesneg. Er mwyn cywiro’r gwall hwn, bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud set newydd o Reoliadau cyn bo hir, sef Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2026 a fydd yn dirymu ac yn disodli’r Rheoliadau hyn . 

           

Pwynt Craffu Technegol 2:         Gan y nydd Llywodraeth Cymru yn gwneud set newydd o Reoliadau caiff y diwygiadau i fynd i’r afael â’r pwynt adrodd hwn eu hymgorffori wrth ddrafftio’r Rheoliadau hynny.

 

Pwynt Craffu Technegol 3:         Bydd adran 14(3)(a) yn gweithredu yn ymarferol i atal y rheoleiddiwr rhag dyroddi hysbysiad sy’n pennu dyddiad canslo sydd mwy na 3 mis ar ôl dyroddi’r hysbysiad. Ar ôl cael cais i ganslo cofrestriad bydd y rheoleiddiwr yn gallu edrych ar yr wybodaeth sy’n dod gyda’r cais yn ofalus i ddeall beth fydd canlyniadau dod â’r cofrestriad i ben i ddefnyddwyr y gwasanaeth. Efallai y bydd cwestiynau y gall y rheoleiddiwr eu gofyn i ysgogi darparwr neu bersonau eraill e.e. cyrff comisiynu a fydd yn helpu i liniaru unrhyw ganlyniadau nas dymunir. Yn ogystal, mae rheoliad 14(a) yn caniatáu i’r darparwr nodi yn y cais y dyddiad a ffefrir ganddo i ganslo ei gofrestriad. Gall y rheoleiddiwr wedyn ystyried yr wybodaeth hon wrth benderfynu pennu’r dyddiad o dan adran 14(3)(b) o’r Ddeddf.

Yn ein barn ni mae’r cyd-destun yn ei gwneud yn ddigon clir bod yr hysbysiad o dan sylw yn hysbysiad a roddir gan y darparwr gwasanaeth. Mae’r ddarpariaeth mewn rhestr o wybodaeth i’w rhoi gan y darparwr gwasanaeth ac mae’n canolbwyntio ar wybodaeth a fydd ym meddiant y darparwr gwasanaeth. Mae’r defnydd o’r fannod sy’n cyfeirio at “y bwriad” yn briodol oherwydd mae’r un rheoliad eisoes yn cyfeirio at y cais i ganslo cofrestriad a wneir i’r rheoleiddiwr ac mae’r cais yn ymwneud yn gryf iawn â’r bwriad. Rydym yn cytuno y byddai’r newid a gynigir gan y Pwyllgor yn gwneud hyn hyd yn oed yn gliriach ond yn ein barn ni nid yw’r drafftio mor aneglur fel ei fod yn arwain at amwysedd neu anawsterau wrth ei ddehongli neu ei gymhwyso.  Gan fod set newydd o Reoliadau i’w gwneud byddwn yn gwneud y newid a gynigir gan y Pwyllgor wrth ddrafftio’r Rheoliadau hynny.

 

Pwynt Craffu ar Rinweddau 4:   Mae’r ceisiadau y mae rheoliad newydd 3B yn gymwys iddynt yn geisiadau i gofrestru i ddarparu gwasanaeth plant o dan gyfyngiad ac felly bydd yr holl ofynion arferol yn gymwys, er enghraifft y prawf addasrwydd. Efallai y bydd sefyllfaoedd pan fo cais i gofrestru yn cael ei wneud gan gorff nid-er-elw a chyfarwyddwyr a swyddogion y corff hwnnw yw’r un unigolion sydd â’r rolau hynny yn y sefydliad er-elw sy’n darparu’r gwasanaeth. Mewn achosion o’r fath, efallai na fydd y fangre, y polisïau na’r gweithdrefnau gweithredu wedi newid ychwaith.

Mae’r ddarpariaeth hepgor yn caniatáu i’r rheoleiddiwr ddefnyddio ei ddisgresiwn i beidio â gwneud holl wybodaeth arferol cais yn ofynnol pan fo ganddo eisoes wybodaeth berthnasol a dibynadwy ynghylch y darparwr presennol (er enghraifft, planiau llawr ei fangre) – boed hynny o gais blaenorol neu weithgaredd arolygu – a phan fo’n amlwg y bydd yr ymgeisydd yn ymarferol yn parhau i ddarparu’r un gwasanaeth o dan strwythur nid-er-elw newydd. Yn yr amgylchiadau hyn, efallai y bydd yr wybodaeth sydd gan y rheoleiddiwr eisoes yn ddigonol i ddarparu sicrwydd ynghylch addasrwydd a chymhwysedd yr ymgeisydd yn y meysydd hyn i’w alluogi i hepgor gofynion penodol yn briodol.